Skip to content
website logo

Wales Grants Officer

WalesPart time Fixed term to March 2028£36,000-£38,000 pa (pro-rata) Application deadline: 09/06/2026, 09:00
AHF (external link) (opens in new tab) is seeking to appoint a Grants Officer to help deliver their core grants and advisory programme in Wales. This role has been created thanks to generous funding from Cadw, Welsh Government’s Historic Environment Division. This investment will enable AHF to provide grants to communities across Wales, helping them bring neglected historic buildings back into use.
The postholder will be responsible for assessing and managing a caseload of projects throughout Wales. They will advise and guide projects through each stage of the project lifecycle, from early viability through to capital works. They will ensure that grants, where offered, are allocated and monitored in accordance with programme criteria and priorities and will work closely with external partners to support shared objectives.
They are looking for candidates with strong experience in grant-making and project management, who can work collaboratively as part of a remote team and who can demonstrate a clear interest in AHF’s mission to promote the conservation and sustainable re‑use of historic buildings for the benefit of communities across the UK. Applicants must also have strong numerical skills and confidence using common IT and office systems. They must also have exceptional communication skills, both written and verbal in the English and Welsh languages.
The role will be home-based but with extensive travel across Wales and occasional travel throughout the UK.

How to apply

If you would like to apply for this post, please send a CV and cover letter (of up to 1.5 sides of A4, by email only) demonstrating your suitability for the vacancy to recruitment@ahfund.org.uk (mailto:recruitment@ahfund.org.uk).
Your application must reach them no later than 9am on 9 June 2026. Covering letters created using AI will be discounted. Please write your own covering letter.
If shortlisted for interview, they will be in touch with you by 15th June 2026. However, they are a small charity and, due to the volume of applications they anticipate, they regret that we will be unable to provide feedback if you are not shortlisted.
Interviews will take place during the week commencing 22 June 2026. These will be held online.

About the AHF

AHF is a leading heritage charity founded in 1976 to help charities and social enterprises across the UK find solutions for vulnerable historic buildings. They do this by offering advice, grants, and loans. You can find more details of the AHF and the impact of their work at: www.ahfund.org.uk (external link) (opens in new tab)
They are a charity committed to being inclusive and giving everyone an equal chance to succeed. Read more about their EDI commitments (external link) (opens in new tab). here
Applications are welcome from all regardless of age, sex, gender identity, disability, marriage or civil partnership, pregnancy and maternity, religion or belief, race, sexual orientation, transgender status or socio-economic background.
Hours: 0.6 FTE
Contract length: Fixed term to March 2028, with the possibility of extension if funding is forthcoming
Salary: £36,000-£38,000 pa (pro-rata) with 8% Pension contribution
Location: Remote home working with extensive travel across Wales, along with regular visits to the AHF office in London

Application

Please submit a CV and covering letter (up to two sides A4) via recruitment@ahfund.org.uk (mailto:recruitment@ahfund.org.uk).
Interviews: Week commencing 22nd June 2026
The above information is now provided below in Welsh.
Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn awyddus i benodi Swyddog Grantiau i helpu cyflawni ein rhaglen graidd o grantiau a chynghori yng Nghymru. Cafodd y rôl hon ei chreu gyda diolch i gyllid hael gan Cadw, Adran Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn fodd i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ddarparu grantiau i gymunedau ledled Cymru, gan eu cynorthwyo i ddefnyddio adeiladau hanesyddol, sydd wedi’u hesgeuluso, unwaith eto.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu a rheoli llwyth achosion o brosiectau ledled Cymru. Byddan nhw’n cynghori ac yn arwain prosiectau drwy bob cam o gylch oes y prosiect, o’r cam hyfywedd cynnar hyd at y cam gwaith cyfalaf. Byddan nhw’n sicrhau bod y grantiau, lle caiff eu cynnig, yn cael eu dyrannu a’u monitro yn unol â meini prawf a blaenoriaethau’r rhaglen a byddan nhw’n cydweithio’n agos gyda phartneriaid allanol i gefnogi amcanion ar y cyd.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth yn dyrannu grantiau a rheoli prosiectau, sy’n gallu cydweithio fel rhan o dîm o bell ac sy’n gallu dangos diddordeb pendant yn nod y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol i hyrwyddo cadwraeth ac ail-ddefnydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol er budd cymunedau ledled y DU. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr hefyd feddu ar sgiliau rhifiadol cryf a phrofiad o ddefnyddio systemau TG a swyddfa cyffredin. At hyn, mae’n rhaid iddyn nhw feddu ar sgiliau cyfathrebu eithriadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y rôl gartref ond gyda theithio helaeth ar hyd a lled Cymru a theithio achlysurol i bob cwr o’r DU.
Sut i ymgeisio
Os hoffech chi ymgeisio am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (o hyd at 1.5 ochr o dudalen A4, ar e-bost yn unig) yn dangos eich addasrwydd ar gyfer y swydd wag, at recruitment@ahfund.org.uk (mailto:recruitment@ahfund.org.uk).
Mae’n rhaid i’ch cais ein cyrraedd erbyn 9yb ar Fehefin y 9fed 2026 fan bellaf. Ni fyddwn yn dwyn i ystyriaeth llythyrau wedi’u creu gydag AI. Ysgrifennwch eich llythyr eglurhaol eich hun os gwelwch yn dda.
Os cewch chi’ch ychwanegu at y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn cysylltu gyda chi erbyn Mehefin y 15fed 2026. Fodd bynnag, elusen fach ydym ni ac, yn sgil y nifer o geisiadau rydym yn eu disgwyl, mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig adborth os na fyddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer.
Byddwn yn cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Fehefin yr 22ain 2026. Bydd y rhain ar-lein.
Gwybodaeth am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol
Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn elusen dreftadaeth flaenllaw a sefydlwyd ym 1976 i helpu elusennau a mentrau cymdeithasol ledled y DU i ddod o hyd i atebion ar gyfer adeiladau hanesyddol bregus. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor, grantiau a benthyciadau. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ac effaith ein gwaith yma: www.ahfund.org.uk (http://www.ahfund.org.uk/)
Rydym yn elusen sy’n ymrwymo i fod yn gynhwysol a rhoi cyfle cyfartal i bawb lwyddo – gallwch ddarllen mwy am ein hymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yma https://ahfund.org.uk/impact/commitments-edi/ (https://ahfund.org.uk/impact/commitments-edi/)Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, hil, cyfeiriadedd rhywiol, statws trawsryweddol neu gefndir economaidd-gymdeithasol.
I wybod mwy, lawr lwythwch y pecyn ymgeisio yma.
0.6 Cyfwerth ag Amser Llawn
Hyd y Cytundeb: Cyfnod penodol hyd at Fawrth 2028, gyda phosibilrwydd o estyniad os oes cyllid ar gael
Cyflog: £36,000-£38,000 y flwyddyn (pro-rata) gyda chyfraniad pensiwn o 8%
Lleoliad: Gweithio o gartref o bell gyda theithio helaeth ledled Cymru, ynghyd ag ymweliadau rheolaidd i swyddfa’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn Llundain
Cais: Gofynnwn yn garedig i chi gyflwyno CV a llythyr eglurhaol (hyd at ddwy ochr A4) at recruitment@ahfund.org.uk (mailto:recruitment@ahfund.org.uk).
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau Mehefin 22ain 2026
triangle-graphic

Be part of the Network preserving heritage and building communities

Share experiences, learn from the experts, feel supported, stay informed